Mae rhai yn uchel ffroeni, Gan gyflym hollti'r gwynt, Y'ngh'wilydd eu rhieni, Sef Adda ac Efa gynt; Nid oedd dim achos dillad O unrhyw ddefnydd clyd, Nes colli diniweidrwydd, A phechod dd'od i'r byd. Ail-llaw i mi yw'r dillad O ddefnydd gwerthfawr, main; Bu'r ddafad a'r sidanbryf O'm blaen yn gwisgo y rhai'n; Yr hyn yn awr, sydd decaf, A gwychaf lliw a gwedd, A fydd ar fyr adgasaf, Pan bydra y'ngwaelod bedd. Y rhosyn sydd yn gwywo, Yn fuan y prydnawn; Ar ol ei wywo hefyd Arogla'n beraidd iawn; Er pydru'r corph daearol, Effeithiol ffrwythau ffydd Aroglant oll yn rasol: O'r isel wely pridd! Yn awr boed i'm ymddïosg Oddiwrth bob llygredd cas; Ymdrwsiwyf oll yn harddwych, Ag addurniadau gras; Gwisg gyflawn o berffeithrwydd, Cyfiawder Iesu cu A bery i drag'wyddoldeb: Mewn anfarwoldeb fry!David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822 Corph y Gaingc 1810 [Mesur: 7676D] gwelir: Ail-llaw i mi yw'r dillad |
Some are haughty, While quickly splitting the wind, In the shame of their parents, That is Adam and Eve of old There is no cause for clothing Of any cosy material, Until losing innocence, And sin's coming into the world. Second-hand to me is the clothing Of valuable, fine material; The sheep and the silkworm were Before me wearing those; What now is fairest, With the most brilliant colour and appearance, Shall shortly be most detestable, When rotting in the bottom of a grave. The rose is withering, Soon in the afternoon; After the withering also Of a smell very sweet; Despite the rotting of the earthly body, Effective fruits shall be They will all smell graciously: From the lowly bed of soil! Now let me undress From every detestable corruption; I will clothe myself all brilliantly beautiful, With the adornments of grace; Full clothing of perfection, The righteousness of dear Jesus Shall endure to an eternity: In immortality above!tr. 2016 Richard B Gillion |
|